Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Adroddiad: CSI(4)-01-11 : 22 Mehefin 2011

 

Mae’r Pwyllgor yn adrodd i’r Cynulliad fel a ganlyn:

 

Offerynnau Statudol a osodwyd cyn neu yn ystod diddymiad y Trydydd Cynulliad

 

Ystyriodd y Pwyllgor ar yr Offerynnau Statudol a gafodd eu gosod gerbron y Trydydd Cynulliad yn rhy hwyr i ganiatáu iddynt gael eu hystyried yn llawn gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol ar y pryd.

 

Roedd yr Offerynnau dan sylw i gyd mewn grym bellach ac roedd yr amser y gallai Aelodau’r Cynulliad geisio eu diddymu wedi pasio. Er hynny, cytunodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ddeddfwriaeth hon, lle mae’n berthnasol, o dan Reol Sefydlog 21.3.

 

Ystyriodd y Pwyllgor hefyd ohebiaeth gan Mr Ian Medlicott, Swyddog Polisi Cangen Cymru o Gymdeithas Ysgrifenyddion a Chyfreithwyr Cynghorau, yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno offerynnau statudol ar adeg pan nad oedd yn bosibl craffu arnynt yn effeithiol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru i gyfleu pryderon Mr Medlicott, ynghyd â phryderon y Pwyllgor, ac ysgrifennu at Mr Medlicott i ddiolch iddo am ei ddiddordeb.

 

Offerynnau’r Trydydd Cynulliad nad ydynt yn arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

CA587 – Rheoliadau’r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 28 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym:  1 Awst 2011

 

CA588 –Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 23 Mehefin 2011

 

CA589 – Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar: 28 Mawrth 2011.

Fe’i gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2011

 

CA590 – Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 21 Ebrilll 2011

 

CA591 – Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 22 Ebrill 2011

 

CA592 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar: 29 Mawrth 2011.

Fe’i gosodwyd ar: 30 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 22 Ebrill 2011

 

Offerynnau’r Trydydd Cynulliad sy’n arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

CA581 – Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 28 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 28 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 29 Mawrth 2011

 

Yn ychwanegol at yr adroddiad a argymhellir o dan Reol Sefydlog 21.3, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol yn pwysleisio bod y meini prawf ar gyfer y dewis o weithdrefn yn yr achos hwn wedi bod yn ddefnyddiol ac y gallent gael eu defnyddio yn y dyfodol i lywio penderfyniadau tebyg.

 

CA582 – Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 24 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 29 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 11 Ebrill 2011

 

CA583 – Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 24 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 29 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 11 Ebrill 2011

 

CA593 – Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 31 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 21 Ebrilll 2011

 

CA594 – Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 29 Mawrth 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 31 Mawrth 2011.

Dyddiad dod i rym: 1 Mehefin 2011

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiadau o dan Reol Sefydlog 21.2 a Rheol Sefydlog 21.3 ar yr offerynnau statudol hyn, sydd wedi’u hatodi fel Atodiadau 1-5.

 

Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

CSI3 – Gorchymyn Tenantiaeth Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 2 Mehefin 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 6 Mehefin 2011.

Dyddiad dod i rym: 1 Rhagfyr 2011

 

CSI4 – Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 8 Mehefin 2011.

Fe’u gosodwyd ar: 9 Mehefin 2011.

Dyddiad dod i rym: Yn unol â rheoliad 3.

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

CSI1 – Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

Gweithdrefn: Gadarnhaol.

Fe’u gwnaed ar: Nid yw wedi’i nodi.

Fe’u gosodwyd ar: Nid yw wedi’i nodi.

Dyddiad dod i rym: 1 Gorffennaf 2011.

 

CSI2 – Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

Gweithdrefn: Gadarnhaol.

Fe’u gwnaed ar: Nid yw wedi’i nodi.

Fe’u gosodwyd ar: Nid yw wedi’i nodi.

Dyddiad dod i rym: 29 Mehefin 2011

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiadau o dan Reol Sefydlog 21.2 a Rheol Sefydlog 21.3 ar yr offerynnau statudol hyn, sydd wedi’u hatodi fel Atodiadau 6-7.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Offerynnau Statudol

22 Mehefin 2011

 


 

Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

(CSI(4)-01-11)

 

CA581

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn atodol i Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (“Rheoliadau Cymru a Lloegr”). Maent yn gwneud diwygiadau i nifer o offerynnau statudol Cymru at ddibenion trosi, o ran Cymru, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t3). Maent hefyd, at yr un diben, yn dirymu un offeryn statudol Cymru.

 

Materion Technegol: Craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhinweddau: Craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Ni roddwyd y Rheoliadau hyn ar waith yng Nghymru o fewn y fframwaith amser a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig (“y Gyfarwyddwb ddiwygiedig”). Roedd yn ofynnol ar y DU (gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig) i drosi’r Gyfarwyddeb ddiwygiedig erbyn 12 Rhagfyr 2010. Ni wnaeth Llywodraeth y DU hynny erbyn y terfyn amser. Mae’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb wedi ysgrifennu at y Llywydd i’w hysbysu am y rhesymau dros y diffyg cydymffurfio. Y prif reswm oedd bod angen aros tan i Reoliadau Cymru a Lloegr gael eu gwneud gan mai’r Rheoliadau hynny yn bennaf a oedd yn trosi’r Gyfarwyddeb ddiwygiedig. Mae’r Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011(“y Rheoliadau Cymreig”) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Offerynnau Statudol Cymru a wnaed yn flaenorol gan Weinidogion Cymru. Roedd angen am ddeddfwriaeth ar wahân gan fod rhaid i offeryn Cymru gael ei wneud yn ddwyieithog, ac nid oedd Llywodraeth y DU, am resymau gweinyddol yng nghyd-destun yr amserlen ar gyfer trosi, yn fodlon cynnwys diwygiadau o’r fath yn Rheoliadau Cymru a Lloegr.

 

(Rheol Sefydlog 21.3 (iv) – ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol.)

 

2.   Gellir gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gan ddefnyddio’r weithdrefn negyddol neu gadarnhaol. Y sawl sy’n gwneud y rheoliadau (Gweinidogion Cymru yn yr achos hwn) sydd â’r disgresiwn o ran dewis pa weithdrefn i’w defnyddio, ac nid oes unrhyw feini prawf wedi’u nodi mewn cyfraith ar gyfer hynny.

 

Gwnaed y rheoliadau penodol hyn gan dramgwyddo ar y rheol 21 niwrnod. Nodwyd y rhesymau dros y tramgwydd yn llythyr y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ar y pryd at y Llywydd, dyddiedig 28 Mawrth 2011. Roedd ei llythyr hefyd yn cynnig yr eglurhad a ganlyn dros ddefnyddio’r weithdrefn negyddol yn yr achos hwn:

 

“…the choice of procedure has depended on the nature of the provision being made rather than procedural considerations. The Wales Regulations do not substantially affect the provisions of an Act of Parliament or Assembly Measure, they do not amend any provision of an Act or Measure, and provide only for consequential updatings of subordinate legislation to reflect changes in Directive terminology and objectives. It was concluded, therefore, that it would not be appropriate to make the Wales Regulations under the affirmative procedure.”

 

Mae’r Pwyllgor yn gwbl fodlon â’r eglurhad hwn. Yn ogystal, mae’n credu ei fod hefyd yn darparu meini prawf pwysig a defnyddiol ar gyfer barnu a ddylid gwneud unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a wneir o dan y pwerau hyn (neu ddeddfwriaeth lle mae gan Weinidogion ddisgresiwn tebyg o ran y weithdrefn y dylid ei defnyddio) drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol neu negyddol.

 

Mae’r Pwyllgor yn credu y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r memoranda esboniadol sy’n cyfeirio at ddefnydd yn y dyfodol o bwerau o’r fath nodi’n gryno, fel mater o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor, sut y defnyddiwyd y meini prawf a nodwyd yn llythyr y Gweinidog i farnu a ddylid defnyddio’r weithdrefn negyddol neu’r weithdrefn gadarnhaol.

 

(Rheol Sefydlog 21.3 (ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol.)

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

22 Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

 

Mae'r Llywodraeth wedi esbonio, drwy lythyr y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb at y Llywydd, pam yr oedd yn angenrheidiol i Reoliadau Cymru gynnwys darpariaethau sy'n cyfeirio at ddarpariaethau yn Rheoliadau Cymru a Lloegr ac yn dibynnu arnynt. O ganlyniad i hyn, nid oedd modd i Reoliadau Cymru gael eu gwneud yn gynt na Rheoliadau Cymru a Lloegr. O ran y Rheoliadau hynny, byddai'r Llywodraeth yn tynnu sylw at y ffaith bod y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig yn cyflwyno sawl darpariaeth newydd, yn ychwanegol at gydgrynhoi Cyfarwyddebau Gwastraff cynharach, ac yn rhoi pwys ar ymgysylltu â rhanddeiliaid. Yr oedd y Llywodraeth felly o'r farn ei bod yn angenrheidiol ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid drwy ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. Er hynny, yr oedd gan y materion a oedd yn codi o'r ymgynghoriadau effaith ar yr amserlen ar gyfer trosi'r Gyfarwyddeb. Mae'n flin gan y Llywodraeth am hyn, ond mae'n credu bod y ffaith ei bod wedi ymgynghori ac wedi ystyried y materion a gododd o'r ymgynghori wedi helpu i sicrhau bod y Gyfarwyddeb yn cael ei gweithredu'n fwy effeithiol yng Nghymru.

 

 

 

 

 


Atodiad 2

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

(CSI(4)-01-11)

 

CA582

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i godi ffi resymol ar oedolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl (defnyddwyr gwasanaeth). Nid yw’n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod awdurdod lleol yn ceisio cael unrhyw daliad pan mae’n darparu gwasanaeth, neu’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaeth y gellir codi tâl amdano; fodd bynnag, mewn achosion pan yw’n ofynnol gan awdurdod lleol godi tâl ar y defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i bolisi codi tâl yr awdurdod lleol hwnnw gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn (ac unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003).

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

Mae anghysondeb rhwng rheoliad 7 (1) (b) (iv) yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r testun. Mae rheoliad 7 (1) (b) (iv) yn y fersiwn Saesneg yn cyfeirio at y geiriau ‘am wasanaethau’ (‘for services’) mewn perthynas â ‘manylion ynghylch yr uchafswm rhesymol y caniateir ei wneud yn orfodol’ (‘details of the maximum reasonable charge’) yn unol â rheoliad 5, tra mae rheoliad 7 (1) (b) (iv) yn y fersiwn Gymraeg yn hepgor y geiriau ‘am wasanaethau’ felly nid yw’n glir am ba reswm y mae’r uchafswm rhesymol yn cael ei godi yn unol â rheoliad 5 yn y fersiwn Gymraeg. 

 

(Rheol Sefydlog 21.2 (vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; a Rheol Sefydlog 21.2 (vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

Rhinweddau: craffu

 

Gweler CLA(4)-01-11(p1) ar gyfer y pwyntiau a nodwyd i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.  

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

22 Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

 

Mae’r pwynt adrodd wedi ei dderbyn. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu dwyn deddfwriaeth ddiwygio gerbron cyn gynted â phosibl, o fewn tri mis i’r Rheoliadau ddod i rym ar yr hwyraf.

 

 

 

 


Atodiad 3

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

(CSI(4)-01-11)

 

CA583

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol 

 

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i godi ffi resymol ar oedolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Mae’r Rheoliadau’n amlinellu nifer o ddarpariaethau y mae’n ofynnol bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â hwy wrth arfer y pŵer hwn.

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 5) – ‘hawlogaeth sylfaenol’ – o ganlyniad i baragraffau (a) a (b) gall premiwm anabledd difrifol gael ei atal os telir ef, mae testun y ddau baragraff yn cyfeirio’n anghywir at ‘os telir ef’, sy’n creu amwyster. (Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft

yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol)

 

2.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 7) – ystyr ‘cyfleuster ymweliadau cartref’ yw ymweliad neu ymweliadau gan swyddog priodol awdurdod lleol â chartref cyfredol D. Mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at …gartref neu breswylfa. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft)

 

3.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 7) – ‘mewn ysgrifen’. Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at ‘eiriau neu ffigurau’ (‘words or figures’); fodd bynnag, mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at ‘eiriau a ffigurau’. 

 

4.   Rheoliad 2 (1) (tudalen 8) – ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” yw oedolyn y cynigiwyd iddo, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir neu wedi’i ddiogelu (‘or secured’) gan awdurdod lleol. Mae’r testun Cymraeg yn hepgor y geiriau neu wedi’i ddiogelu (‘or secured’). (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

5.   Rheoliad 7 (4) (b) (tudalen 11) - Mae’r testun Saesneg yn darparu bod yn rhaid i wahoddiad sy’n gofyn am asesiad o fodd gynnwys manylion llawn am bolisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd hefyd gynnwys y wybodaeth yn is-baragraff (1) - (v). Nid yw’r cyfieithiad Cymraeg yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei chynnwys. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

6.   Rheoliad 7 (4) (e) (tudalen 12) – Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at is-baragraff (d), ond mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at (dd) yn lle (ch). (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

7.   Rheoliad 7 (4) (i) yn y Saesneg, (ff) yn y Gymraeg - Mae’r testun yn cyfeirio at unigolion yn lluosog. Mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at unigolion i ddechrau, ond wedyn yn mynd ymlaen i gyfeirio at un unigolyn - ‘gysylltu ag ef’. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

 

Rhinweddau: craffu

 

Gweler CLA(4)-01-11(p1) ar gyfer y pwyntiau a nodwyd i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3.

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

22 Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

 

Derbynnir y pwyntiau adrodd.  Mae’r Llywodraeth yn bwriadu dwyn deddfwriaeth ddiwygio gerbron cyn gynted â phosibl a beth bynnag cyn pen tri mis ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

 

[Derbyniodd y Pwyllgor gadarnhad llafar fod y cywiriad wrth gyhoeddi wedi digwydd ers i’r adroddiad drafft ac ymateb y llywodraeth gael eu paratoi]
Atodiad 4

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

(CSI(4)-01-11)

 

CA593

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i sampl o broseswyr llaeth ddarparu gwybodaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â phrisiau a osodir ar gyfer gwerthu cynhyrchion llaeth ar ôl iddynt gael eu prosesu. Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn cyfleu’r wybodaeth  i’r Comisiwn Ewropeaidd.

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

Mae Rheoliad 4 (2) yn datgan bod unrhyw berson nad yw’n cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 2 (1) yn euog o dramgwydd. Rheoliad 3 (1) yn hytrach na rheoliad 2 (1) sydd yn darparu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’r fath. Nid yw rheoliad 2 (1) yn bodoli.

 

(Rheol Sefydlog 21.2 (vi), ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol).

 

Rhinweddau: craffu

 

Gweler CLA(4)-01-11 (p1) ar gyfer y pwyntiau a nodwyd i fod yn destun adroddiad i dan Reol Sefydlog 21.3.

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

22 Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011

 

Mae'r Llywodraeth yn ystyried bod pwynt craffu technegol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn wall teipograffyddol. Gellir gwneud y gwiriad priodol i'r gwall hwn wrth i’r Rheoliadau gael eu cyhoeddi ddiwedd mis Mai 2011. Cefnogir ymateb y Llywodraeth fel a ganlyn:

 

1.       Mae'r nodyn esboniadol i'r Rheoliadau yn nodi fod methu â chydymffurfio â'r gofynion hysbysu a geir yn y Rheoliadau yn dramgwydd ac y dylai'r cyfryw hysbysiadau gael eu cyflwyno o dan reoliad 3. Pan fo amwysedd yng nghorff y Rheoliadau, bydd y nodiadau esboniadol, er nad ydynt yn gyfreithiol rwymol, yn cael eu defnyddio i gynorthwyo'r darllenydd i gyrraedd dehongliad.

 

2.       Nid oes rheoliad 2(1) yn y Rheoliadau.  O gofio, yn y cyd-destun fod hysbysiadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 3 a'i bod yn dramgwydd o dan reoliad 4 i fethu â chydymffurfio â'r cyfryw hysbysiad, y mae'n annhebygol y gall dyfynnu rheoliad 2(1) anghywir olygu unrhyw beth arall ond mai gwall teipograffyddol ydyw y dylai fod wedi ei ddyfynnu yn rheoliad 3(1).

 

3.       Cyhoeddiad Bennion yw'r awdurdod cyfreithiol cydnabyddedig ar ddehongli statudol. Rhoddir enghraifft yn Bennion o arfer dderbyniol y llysoedd i ddehongli i offerynnau statudol er mwyn gwirio gwall gan roi effaith ymarferol i fwriad y deddfwr pan fo gwall teipograffyddol yno.

 

Crynodeb o Ymateb y Llywodraeth

 

Mae’n amlwg bod rhoi rheoliad 2(1) yn lle'r hyn a ddylai gael ei ddarllen fel rheoliad 3(1) yn wall teipograffyddol amlwg. Gellir gwneud y cywiriad priodol i'r gwall hwn wrth i’r Rheoliadau gael eu cyhoeddi. Cefnogir hyn gan y rhesymau a nodwyd yn 1 – 3 uchod.

 

[Derbyniodd y Pwyllgor gadarnhad llafar fod y cywiriad wrth gyhoeddi wedi digwydd ers i’r adroddiad drafft ac ymateb y llywodraeth gael eu paratoi]

 

 

 

 

 

 


Atodiad 5

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

(CSI(4)-01-11)

 

CA594

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 i'w gwneud yn ofynnol i'r person sy'n rheoli cartref gofal feddu ar lefel gymhwyster sy'n ofynnol er mwyn ymgymryd â'r rôl honno ac iddo fod wedi ei gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r rheoliadau hyn o dan Reol Sefydlog 21.3(ii): ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Yn sgil pryderon cyhoeddus a leisiwyd yn ddiweddar ynghylch rheoli a rhedeg cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaethau i oedolion, bydd Aelodau’r Cynulliad o bosibl yn dymuno nodi bod y Rheoliadau hyn yn cyflwyno trefniadau newydd i’w gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod holl reolwyr cartrefi gofal i oedolion yn cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru er mwyn bodloni gofynion y rôl.

Gosodwyd yr offeryn yn ystod y Trydydd Cynulliad ac nid oedd yn bosibl adrodd arno o fewn yr 20 diwrnod arferol. Mae gwybodaeth ychwanegol am y broses hon ar gael yn yr adroddiad (rhif cyfeirnod y ddogfen a osodwyd: CR-LD8540) gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol blaenorol a osodwyd ar 31 Mawrth 2011.

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

22 Mehefin 2011


Atodiad 6

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol


(CSI(4)-01-11)

 

CSI1

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru yn gwneud cynlluniau i ymgymerwyr carthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr fabwysiadu carthffosydd preifat a draeniau ochrol preifat o dan adran 102 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 (“y Ddeddf”).

 

Materion technegol: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

Ni wnaethpwyd y Rheoliadau hyn yn ddwyieithog.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(ix): nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Rhinweddau: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

Bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar gyfran helaeth o’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn rhoi dyletswydd statudol ar ymgymerwyr carthffosiaeth i ddarparu, cynnal ac ymestyn system o garthffosydd cyhoeddus i sicrhau bod yr ardal yn cael ei draenio’n effeithiol, a bod hynny’n parhau i ddigwydd. Er bod  Deddf 1991 yn darparu ar gyfer mabwysiadu gwirfoddol fel rhan o’r system garthffosiaeth gyhoeddus o ran cysylltu carthffosydd a draeniau ochrol â’r system honno, nid yw hyn yn ofynnol, felly mae system helaeth o garthffosydd preifat wedi datblygu ers 1937. Amcangyfrifir bod 50 y cant o eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi’i gysylltu â charthffosydd preifat mewn un ffordd neu’r llall. O ganlyniad, mae’r cyfrifoldeb am y carthffosydd hyn yn cael ei rannu gan berchenogion yr eiddo y mae’r carthffosydd hynny’n eu gwasanaethu. Bydd y Rheoliadau hyn yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am gynnal y carthffosydd a draeniau ochrol i’r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth. Bydd hyn yn cynnwys carthffosydd a draeniau ochrol sy’n draenio adeiladau preswyl a masnachol.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys cymal machlud. Mae cymal machlud yn darparu bod effaith y Ddeddf yn darfod ar ôl dyddiad penodol. Mae Rheoliad 1(2) yn datgan “these regulations… cease to have effect at the end of 30th June 2018.” Mae’r memorandwm esboniadol yn esbonio pam mae cymal machlud yn angenrheidiol yn yr achos hwn. Mae’n datgan:

 

“the regulations that implement the transfer of private sewers will affect the transfer by requiring water and sewerage companies to use their existing powers under the Water Industry Act 1991 to declare sewerage assets to be vested in them as “public” sewerage assets. They will be required to make declarations in respect of private sewers, laterals and associated pumping stations which are connected to the public sewerage system on a date specified in the regulations. This exercise is a single operation such that, once over the transitional period specified in the regulations they will have no on-going effect.”

 

Mae’r memorandwm esboniadol yn ddryslyd oherwydd ei fod yn datgan: “no sunset clause is therefore proposed for these regulations.” Mae hyn yn anghywir ac mae cyfreithwyr y Llywodraeth wedi nodi’r gwall.

 

[Rheol Sefydlog 21.3(ii): ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad].

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

22 Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Pwyntiau technegol:

 

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

 

Mae’r rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU yn unol â gofynion statudol.  Bernir felly nad yw’n rhesymol ymarferol i’r rheoliadau hyn gael eu gosod ar ffurf drafft, na’u gwneud, yn ddwyieithog.

 

Pwyntiau ynglŷn â’r Rhinweddau:

 

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau i Fabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

 

Rwy’n ddiolchgar am adroddiad drafft y Pwyllgor. Fel y mae’r adroddiad drafft yn ei nodi, mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyfeiliorni wrth ddatgan nad oes cymal machlud yn y Rheoliadau.  Er hynny, mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan yn gywir bod cymal machlud yn y Rheoliadau.  Er fy mod yn gresynu at y camgymeriad hwn, nid wyf yn credu y byddai unrhyw gamau i’w gywiro, mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, yn briodol.

 


Atodiad 7

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

(CSI (4)-01-11)

 

CSI2

 

Adroddiad y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Teitl: Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Mae adran 2 o'r Mesur yn darparu bod y Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru. Wrth benodi'r Comisiynydd, mae Prif Weinidog Cymru o dan ddyletswydd i gydymffurfio â rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynghylch y penodiad (y cyfeirir atynt yn y Mesur fel “rheoliadau penodi”). Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn i gydymffurfio â'u dyletswydd i wneud rheoliadau penodi. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnull panel dethol a'i aelodaeth. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn gan Brif Weinidog Cymru wrth benodi'r Comisiynydd a'r wybodaeth a'r hyfedredd yn y Gymraeg sy’n rhaid i berson a benodir yn Gomisiynydd eu cael.

 

Materion Technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhagoriaethau: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3[1], gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r pwyntiau a ganlyn mewn perthynas â’r offeryn:

 

i)             Dyma’r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan y Mesur. Cafodd y trefniadau ar gyfer penodi’r Comisiynydd eu trafod yn ystod y Trydydd Cynulliad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a chan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, fel rhan o’u gwaith craffu ar y Mesur yn ystod cyfnod 1. Tynnodd y ddau bwyllgor sylw at y trefniadau penodi arfaethedig, gan nodi eu pryderon ynghylch annibyniaeth dybiedig y Comisiynydd. Yn benodol, wrth graffu ar y Mesur, nododd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 bryderon ynghylch creu sefyllfa lle y byddai’r Prif Weinidog yn penodi’r Comisiynydd. Argymhellodd y Pwyllgor mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benodi’r Comisiynydd.

ii)           Dywedodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn ei adroddiad:

 

“58.   Ni chredwn ei bod yn rhan o’n cylch gwaith i wneud sylwadau o ran a yw’r trefniadau penodi yn yr achos hwn yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cyfeiriad gwleidyddol ac annibyniaeth. Fodd bynnag, credwn y bydd y mater hwn yn ffactor allweddol wrth sefydlu hygrededd y Comisiynydd ymhen amser. Credwn fod hwn yn faes lle y dylai Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol gael cyfle i ystyried a phenderfynu a yw’r trefniadau a gaiff eu cyflwyno yn y diwedd yn cyflawni’r cydbwysedd hwn. Am y rheswm hwn, credwn y dylai’r rheoliadau penodi perthnasol gael eu gwneud gan y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.”

iii)          Er na chafodd yr argymhelliad a wnaed gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i’r Mesur arfaethedig yn dilyn hynny, er mwyn sicrhau bod y rheoliadau a fydd yn rheoli penodiad y Comisiynydd bellach yn cael eu gwneud gan ddefnyddio’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Mae Rheoliad 2(d) hefyd yn gwneud darpariaeth a fyddai’n galluogi pwyllgor perthnasol i enwebu Aelod Cynulliad i eistedd ar y panel dethol, er nad oes eglurder ynghylch sut y bydd hynny’n gweithio’n ymarferol.

iv)          Mae’r Rheoliadau yn diffinio “pwyllgor perthnasol” fel “un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr estynnir gwahoddiad iddo gan Weinidogion Cymru i enwebu.” Nid yw’r Rheoliadau yn darparu unrhyw ganllawiau ynghylch pa bwyllgor y caiff Gweinidogion wahodd i enwebu Aelod i eistedd ar y panel, ac mae’n bosibl y gallai anawsterau ymarferol godi os estynnir gwahoddiad ar adeg pan na fydd unrhyw bwyllgor mewn sefyllfa i wneud enwebiad (er enghraifft, oherwydd y toriad). Mae’n bosibl, felly, y bydd Aelodau am ofyn am eglurhad gan Weinidogion ynghylch sut y maent yn bwriadu rhoi’r ddarpariaeth hon ar waith yn ymarferol.

v)            Efallai y bydd y Pwyllgor am nodi bod paragraff 3(1) (b) o Atodlen 1 i’r Mesur yn datgan bod yn rhaid i’r Prif Weinidog roi ystyriaeth i argymhellion y panel dethol.

 

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

22 Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Ymateb o ran Rhinweddau – Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan Aelodau’r Cynulliad ynghylch penodi Comisiynydd y Gymraeg a’r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer y Rheoliadau.  Bydd y Rheoliadau hyn yn mynd drwy’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol ac maent yn darparu rôl i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses sy’n arwain at benodi’r Comisiynydd gan y Prif Weinidog.

 

Bwriad y Llywodraeth fyddai gwahodd Pwyllgor y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am graffu ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg i enwebu Aelod o’r Cynulliad i eistedd ar y panel dethol.  Ond, rhag ofn na fydd Pwyllgor o’r fath yn bodoli, mae rheoliad 2(ch) wedi ei ddrafftio i ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru wahodd Pwyllgor arall i enwebu Aelod o’r Cynulliad.

 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr angen i benodi Comisiynydd a’r angen o ganlyniad i alw panel dethol yn wybyddus ymlaen llaw. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau i ohebu â’r Pwyllgor yn ystod tymor y Cynulliad. Ond, weithiau efallai bydd angen ysgrifennu at y Pwyllgor yn ystod toriad.

 

 

.

 

 

 

 

 

 

 



[1]  Rheol Sefydlog 21.3(ii) “ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.”